
DIOLCH!
Rhoi adeilad arbennig yn nwylo’r gymuned
Rydym yn berchen ar Gapel Bach!
Gyda cymorth cyfranddalwyr newydd, mae Menter y Plu wedi prynu Capel Bach (Capel Cariad gynt), Llanystumdwy fel busnes llety gwyliau llwyddiannus er budd y gymuned. Drws nesaf i Dafarn y Plu, adeiladwyd yn 1831 ac mi gafodd ei droi yn lety gwyliau preifat.
Mae’r capel hunanarlwyo hwn yn darparu llety unigryw i hyd at 6 o bobl yn Llanystumdwy, pentref hardd a chyfeillgar yng nghanol bro Eifionydd, a thafliad carreg i ffwrdd o Barc Cenedlaethol Eryri.
Archebu gwyliau yng Nghapel Bach
I weld y dyddiadau ar gael ac i archebu, ewch i wefan Dioni drwy bwyso ar y botwm isod.
Rydym yn falch o gynnig gostyngiad o 10% i gyfranddalwyr os fyddwch chi’n archebu yn uniongyrchol drwy Fenter y Plu. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.